Argraffydd 3D

Mae argraffu 3D yn broses weithgynhyrchu sy'n creu gwrthrych ffisegol o ffeil model digidol.  Mae'r dechnoleg yn gweithio trwy ychwanegu haen ar ben haen o ddeunydd i adeiladu gwrthrych cyflawn. Dewiswch brosiect o wefan fel thingiverse.com neu defnyddiwch ein meddalwedd dylunio digidol i greu eich un eich hun a gallwn argraffu eich dyluniad gan ddefnyddio ein peiriant Ultimaker 5S. 

Gweler yr adran “Gwybodaeth” am ragor o wybodaeth am gostio.

  • Rydym yn argraffu gyda PLA safonol a Tough PLA. Mae gennym amrywiaeth o liwiau, cysylltwch â ni trwy ein tudalen Gyswllt i gael gwybod mwy.

  • Nid yw'n ofynnol i chi gael unrhyw brofiad gan fod y Lle Creu ar gyfer dechreuwyr pur a hoffai ddatblygu eu sgiliau Saernïo Digidol.

Next
Next

Codio