Ysgythru Pwmpen â laser

Pan oeddem yn paratoi’r Gofod Gwneud i ddechrau arni, y Laser Pecker oedd ein darn cyntaf o offer i gyrraedd y gallem ddechrau arbrofi ag ef.

Y dewis nad oedd mor amlwg i ddechrau oedd pwmpen oherwydd, wel pam ddim? ‘Doeddem erioed wedi'i weld yn cael ei wneud o'r blaen ond gan ei bod hi’n adeg Calan Gaeaf roedd yn ymddangos fel y deunydd priodol i roi prawf arno.

Gellir gosod y pigwr laser ar sylfaen ond fe benderfynon ni ddefnyddio'r tripod a ddaeth gydag ef gan fod y pwmpen mor fawr a bod iddo arwyneb crwm.

Gwnaeth y canlyniad terfynol gymaint o argraff arnom. Gellid ei ddefnyddio fel y dyluniad terfynol ar gyfer pwmpen neu hyd yn oed amlinelliad / stensil yn unig i helpu i gerfio siâp yr wyneb.

Tra'n dal i fod yn ein cyfnod arbrofol fe gawsom ymwelydd â'r llyfrgell a welodd ein dyluniad a gofyn a fyddai'n bosibl dod â’i ddyluniad a’i bwmpen ei hun i mewn. Roeddem yn fwy na pharod i roi cynnig arni oherwydd gorau po fwyaf o ymarfer a gaem, gorau oll!

Dyma'r canlyniad terfynol a grëwyd gennym o'i ddyluniad, gwnaethom hyd yn oed ychwanegu ein label fach ein hunain!

Previous
Previous

Torri â Laser